Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd

Environment and Sustainability Committee

 

 

 

 

 

 

 

                                       

                

25 Gorffenaf 2014

Annwyl Gyfaill

Mae Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal ymchwiliad i gynhyrchu organig a labelu cynhyrchion organig.

Diben yr ymchwiliad hwn yw ystyried yr effeithiau posibl ar Gymru yn wyneb cynigion y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer Rheoliad Senedd Ewrop a'r Cyngor ar gynhyrchu organig a labelu cynhyrchion organig a'r cynigion a wnaed yn y Cynllun Gweithredu ar ddyfodol cynhyrchu organig yn yr UE.

Cylch gorchwyl

Bydd yr ymchwiliad yn:


Gwahoddiad i gyfrannu at yr ymchwiliad

 

Mae’r Pwyllgor yn croesawu tystiolaeth gan unigolion a sefydliadau. 

Byddwn yn cynnal sesiwn tystiolaeth lafar ar 13 Tachwedd 2014, felly byddai'n ddefnyddiol pe gallech nodi yn eich cais a fyddech yn fodlon rhoi tystiolaeth lafar, os cewch wahoddiad i wneud hynny.

Yn gyffredinol, gofynnwn i dystiolaeth gael ei chyflwyno yn ysgrifenedig oherwydd ei bod yn arferol i'r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi tystiolaeth a ddarperir i bwyllgor ar ein gwefan, er mwyn iddi ddod yn rhan o'r cofnod cyhoeddus. 
Rhowch wybod inni os oes gennych unrhyw wrthwynebiad inni gyhoeddi eich tystiolaeth.  Gallwn hefyd dderbyn tystiolaeth ar ffurf sain neu fideo.  Mae’r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn Gymraeg ac yn Saesneg, a gofynnwn i sefydliadau sydd â pholisïau / cynlluniau iaith Gymraeg ddarparu ymatebion dwyieithog, pan fydd hynny’n berthnasol, yn unol â’u polisïau gwybodaeth gyhoeddus. 

Os hoffech gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig ohoni i
PwyllgorAC@cymru.gov.uk

Fel arall, gallwch ysgrifennu at:

Clerc y Pwyllgor,
Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd,
Cynulliad Cenedlaethol Cymru,
Bae Caerdydd,
CF99 1NA.

Dylai cyflwyniadau o dystiolaeth gyrraedd erbyn 24 Hydref 2014
, ac yn ddelfrydol ni ddylent fod yn hirach na 3,000 o eiriau o hyd, dylid rhifo'r paragraffau a chyflwyno'r dystiolaeth mewn fformat Word. Mae’n bosibl na fydd modd ystyried unrhyw ymateb a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn.

Dylai cyflwyniadau
dechrau gyda chrynodeb gweithredol, gan ddefnyddio pwyntiau bwled i nodi prif bwyntiau a dylent cael ei wneud mewn un ddogfen.  Os oes unrhyw atodiadau, dylid eu cynnwys yn yr un ddogfen.

Datgelu Gwybodaeth

Mae rhagor o fanylion am sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth yn www.assemblywales.org/cy/help/privacy/help-inquiry-privacy.htm. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i'r Pwyllgor.

Yn gywir

 

 

Alun Ffred Jones AC

Cadeirydd